P'un a ydych chi'n chwilio am wersi nofio cyffrous i'ch plant neu'n awyddus i feistroli'r hanfodion eich hun, mae gennym ni’r dosbarth perffaith i chi.
Fel un o ddarparwyr gwersi nofio mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig, mae Ysgol Nofio Better yn cefnogi dros 200,000 o bobl bob wythnos i fagu eu hyder a'u sgiliau yn y dŵr. O blant i oedolion, mae ein gwersi yn helpu nofwyr o bob oed i deimlo'n gyfforddus mewn pyllau ledled Caerdydd wrth gadw'n actif a chael hwyl.

Swimbies - Gwersi Nofio Rhiant a Babi
Cyflwynwch eich plentyn i'r dŵr gyda'n gwersi nofio i fabanod a phlant bach. Wedi'u cynllunio ar gyfer plant rhwng 3 mis a 4 oed, mae ein sesiynau difyr yn creu amgylchedd hwyliog a chefnogol lle gallwch chi a'ch plentyn ddatblygu hyder gydol oes yn y dŵr gyda'ch gilydd.
Opsiwn aelodaeth consesiynol bellach ar gael am £26 y mis

Ysgol Nofio - Gwersi Nofio i Blant
Mae ein gwersi nofio hwyliog a fforddiadwy i blant yn darparu ar gyfer pob oedran a lefel sgiliau. Yn fwy na dim ond dysgu nofio, mae ein Hysgol Nofio yn helpu plant i fagu hyder, datblygu annibyniaeth yn y dŵr, a mwynhau gwneud ffrindiau newydd ar hyd y ffordd.

Gwersi Nofio i Oedolion
P'un a ydych chi newydd ddechrau neu'n awyddus i wella eich ffitrwydd yn y dŵr, mae ein rhaglen nofio i oedolion wedi'i chynllunio i weddu i bob gallu. O feistroli'r hanfodion i fireinio'ch techneg neu baratoi ar gyfer digwyddiad, mae ein sesiynau yn cynnig yr amgylchedd perffaith i'ch helpu i gyrraedd eich nodau wrth fwynhau awyrgylch gefnogol a chyfeillgar.

Dewisiadau Aelodaeth
Rydym yn falch o allu cynnig aelodaeth Gwersi Nofio fforddiadwy sy'n cynnwys mynediad am ddim i’r pwll nofio yn ystod unrhyw sesiwn Nofio i Bawb neu Nofio Hwyl i'r Teulu yn eu pwll cartref.
NEWYDD AR GYFER 2025 - mae opsiwn aelodaeth gonsesiynol bellach ar gael am £26 y mis yn unig.
Sylwadau gan yr athrawon

Paul
'Mae gwersi Swimbies yn rhan bwysig o daith nofio plentyn.
Mae bod yn Athro Swimbies yn rhoi llawer o foddhad. Plleser yw gwylio’r berthynas rhwng rhiant a phlentyn yn datblygu dan eich arweiniad.
O ganeuon i gemau sy'n helpu magu hyder a datblygiad y plentyn yn y dŵr, mae caniatáu iddynt gael hwyl a datblygu sgiliau gwerthfawr yn wych i'w weld.
Mae rhyngweithio â'r rhiant a'r plentyn, a defnyddio a mabwysiadu sgiliau a gwybodaeth, yn golygu bod y gwersi hyn yn rhoi boddhad mawr i mi fel Athro Swimbies.'

Brian
'Mae gwersi nofio yn cynnig dechrau cyffrous i brofiad cynnar plentyn yn y dŵr, a gorau po gynharaf y bydd babi’n dechrau nofio.
Yn y gwersi hyn, gall plant ddechrau datblygu sgiliau symud sylfaenol fel cylchdroi ac arnofio ac mae tystiolaeth yn dangos bod plant sydd wedi bod i wersi rhiant a phlentyn wedi’u paratoi’n well ar gyfer y gwersi nofio strwythuredig y gallant ymuno â nhw o 4 oed.
Mae'r gwersi’n cynnig profiad dysgu a rennir rhwng y plentyn a’r oedolyn a chyfle i'r babi a'r rhiant gysylltu yn y dŵr trwy gael hwyl a sbri gyda'i gilydd a gyda’r rhieni a'r plant eraill yn y dosbarth.'
Sylwadau gan ein rhieni
"Mae'r gwersi’n hwyl, yn flaengar ac yn strwythuredig. Profiad nofio cyntaf fy merch oedd yn Swimbies yn 18 mis oed. Mae hi bellach yn 4 oed ac ar fin symud i'r dosbarth sylfaen. Mae hi wedi troi'n blentyn hapus a hyderus yn y dŵr ac mae’n mwynhau ei gwersi i gyd.
Mae fy mab wrth ei fodd â'i wersi nofio gyda Brian. Mae'n mwynhau'r awyrgylch yn y Tyllgoed, ac mae'r athrawon eraill bob amser yn dweud helo fel ei fod yn eu hadnabod nhw pan fydd o bosibl yn symud i fyny i'r lefel nesaf. Mae gwersi Brian yn gyffrous, yn ddiddorol ac yn wahanol bob wythnos.
Mae brwdfrydedd ac egni Paul yn gwneud pob gwers yn gyffrous ac yn hwyl i fi a fy merch."
"Rwy'n credu ei bod yn bwysig magu hyder yn y dŵr, ac mae hi'n bendant wedi gwneud hynny yn barod ar ôl dim ond ychydig o wersi byr. Rwy wrth fy modd yn ei gweld hi’n rhyngweithio â babis eraill yn y dŵr ac mae hi’n dechrau cicio yn y dŵr a dal ymyl y pwll yn barod. Maen nhw'n dysgu mor gyflym!"
"Dechreuais fynychu'r gwersi oherwydd roeddwn i am i Kelton ddod i arfer â'r dŵr. Mae wrth ei fodd yn cael bath ac roeddwn i'n meddwl y byddai'n syniad da dysgu sut i nofio o oedran cynnar. Rwy wrth fy modd yn ei wylio yn y dŵr ac yn gwenu, yn enwedig pan mae'n mynd i mewn gyda'i dad – mae'n toddi fy nghalon. Ers ei wers gyntaf, mae wedi dechrau cicio ei goesau pan fyddwch chi'n dweud ‘cicia’ felly mae’n anhygoel ei weld yn dysgu pethau yn barod."