Aelodaeth Talu wrth Fynd Preswylwyr Caerdydd

ENGLISH

Mae cerdyn talu wrth fynd preswylydd Caerdydd yn aelodaeth flynyddol AM DDIM sydd ar gael i bobl sy’n byw yng Nghaerdydd, gan roi mynediad at amrywiaeth o weithgareddau am bris is ar draws Canolfan Hamdden y Dwyrain, Canolfan Hamdden y Tyllgoed, Canolfan Hamdden Llanisien, Canolfan Maendy, Canolfan Hamdden Pentwyn, Llyfrgell a Chanolfan Gymunedol Pen-y-lan, Hyb Star a Chanolfan Hamdden y Gorllewin.

I gofrestru ar-lein am eich cerdyn talu wrth fynd AM DDIM, dilynwch y camau isod. Fel arall, siaradwch ag aelod o staff yn eich canolfan hamdden Better leol.

Cofrestru heddiw

Manteision Cerdyn Preswylydd Caerdydd

Mwynhewch fynediad am bris is i bob canolfan hamdden yng Nghaerdydd gyda'r manteision canlynol:

  • Gostyngiadau o hyd at 10% oddi ar brisiau gweithgareddau
  • Mynediad at amrywiaeth eang o weithgareddau
  • Mynediad at gyrsiau a gweithgareddau a chyfleusterau eraill sydd i aelodau yn unig
  • Archebu a thalu ar-lein yn rhwydd ymlaen llaw
  • A llawer mwy…

Telerau ac amodau’n berthnasol. Mae telerau ac amodau llawn ar gael wrth gofrestru.

Sut i Gofrestru

1.  Dewiswch y categori Talu Wrth Fynd Preswylydd sy'n berthnasol i chi o dan eich canolfan hamdden leol yn y tabl aelodaeth isod. Sylwch, ar ôl cofrestru, gellir defnyddio eich cerdyn Talu Wrth Fynd ym mhob canolfan hamdden yng Nghaerdydd.

*Mae’r aelodaeth gonsesiwn Talu Wrth Fynd Preswylydd yn cynnig gostyngiadau ychwanegol yn ystod oriau tawel (Llun-Gwener 9:00-17:00, ar ôl 13.00 ar benwythnosau ac yn ystod yr holl sesiynau nofio cyhoeddus).

2.  Ar ôl dewis eich categori Talu Wrth Fynd Preswylydd o'r tabl isod, fe gewch eich cyfarwyddo i gwblhau eich cofrestriad.

3.  Ar ôl cwblhau'r cofrestriad, byddwch yn derbyn e-bost yn fuan yn cadarnhau eich rhif aelodaeth. Bydd yr e-bost hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol arall am eich cerdyn Talu Wrth Fynd.

4. Ar ôl i chi dderbyn eich rhif aelodaeth, ewch i'ch canolfan hamdden Better leol i gasglu eich cerdyn aelodaeth.

Ydych chi’n gymwys?

Categori Oedran Meini prawf cymhwysedd
Talu Wrth Fynd Preswylydd - Oedolyn Dros 16 Byw yng Nghaerdydd
Talu Wrth Fynd Preswylydd - Iau 11-17 Byw yng Nghaerdydd
Talu Wrth Fynd Preswylydd - Oedolyn consesiynol Dros 16 Preswylwyr Caerdydd sy'n derbyn un o'r canlynol:
Cymorth Incwm; Budd-dal Tai; Budd-dal y Dreth Gyngor; Credyd Treth Gwaith a Lwfans Anabledd Difrifol
Talu Wrth Fynd Preswylydd - Iau consesiynol 11-17 Preswylydd Caerdydd sy'n derbyn un o'r canlynol: Cymorth Incwm; Budd-dal Tai; Budd-dal y Dreth Gyngor; Credyd Treth Gwaith a Lwfans Anabledd Difrifol neu fyfyrwyr llawn amser sy’n byw neu’n astudio yng Nghaerdydd.

Eich canolfan hamdden Better leol

Mae 8 canolfan hamdden ledled Caerdydd, pob un yn cynnig ystod eang o weithgareddau i weddu i bawb yng nghymuned Caerdydd. O nofio i ymarfer yn y gampfa, gwersi ffitrwydd i dawelu’ch corff a'ch meddwl a'r rhai sy'n gwneud i’ch calon bwmpio. Hefyd, mae amrywiaeth o weithgareddau iach a hwyliog i blant, gan gynnwys sesiynau campfa iau pwrpasol, yr ‘Inflatable Zone’ a’r Ysgol Nofio boblogaidd. 

Canfod eich canolfan hamdden leol

Aelodaeth Better

Os ydych chi'n rhywun sy'n hoffi ymarfer corff fwy na 3 gwaith yr wythnos, efallai y byddai Aelodaeth Better misol yn opsiwn mwy fforddiadwy i chi.

Bydd talu'n fisol yn arbed arian i chi ac yn rhoi mynediad diderfyn i chi i’r gampfa, gwersi ffitrwydd, nofio a gweithgareddau chwaraeon.

 

Darganfod yr aelodaeth i chi